O! Iesu cadw fi
Yn gyson yn dy waith,
A grasol oleu'r nef
Fo yn goleuo'r daith:
Cryfha fy ffydd,
rho help dy law
I'm dwyn ymlaen i'r ochor draw.
'R wy'n ofni colli'r ffordd
Bob dydd, o awr i awr,
A minnau'n eiddil gwan
Os colla' i'r nefol wawr:
Er mwyn haeddiannau Calfari,
O! Iesu da, bydd gyda mi.
Pan ddelo'r olaf awr,
A minnau yn y glyn,
Dy hen addedwid fawr
Fo gyda mi'r pryd hyn:
O! clyw fy nghri, drugarog Iôr,
A dwg fi i mewn i'r nefol gôr.
George Penrith Thomas (Penrith) 1854-1952
Tôn [666688]: Alexandria (alaw Ellmynaidd) |
O Jesus, keep me
Constantly in thy work,
And may the gracious light of heaven
Be lighting the journey:
Strengthen my faith,
give the help of thy hand
To lead me onward to yonder side.
I am fearing losing the way
Every day, from hour to hour,
And I feeble, weak,
If I lose the heavenly dawn:
For the sake of the merits of Calvary,
O good Jesus, be with me!
When the last hour comes,
And I in the vale,
May thy great, old promise
Be with me at this time:
O hear my cry, merciful Lord!
And bring me into the heavenly choir.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|